Am tua 7p.m. ar nos Wener 28 Mai bydd yr ŵyl yn dechrau gyda noson dawel o gerddoriaeth a bydd yn gorffen gyda bang am 11p.m. nos Sul 30 Mai. Bydd honno’n noson o berfformwyr gwych, cerddoriaeth ac ysbrydoliaeth.

Mae UNCIVILISATION (ANWAREIDDIAD) yn ddigwyddiad i bobl sydd wedi peidio â chredu’r storïau y mae gwareiddiad yn dweud wrtho’i hun. Mae’n ŵyl o syniadau a symudiadau i’r rhai sydd am weld y dyfodol drwy lens gwahanol.

Dros benwythnos gŵyl banc Mai, byddwn ni’n denu cannoedd o bobl i dref hardd Llangollen yng Ngogledd Cymru i gyfarfod o feddyliau tebyg ac amrywiaeth fyw o syniadau. Byddwn yn cynnig amrywiaeth o awduron, meddylwyr, cerddorion, beirdd, storïwyr, actifyddion a chrefftwyr, pob un yn barod i edrych yn onest ar yr hyn sy’n dod - a chadw synnwyr digrifwch a rhyfeddod amdanyn nhw tra’u bod yn gwneud hynny.

Gellir cael cipolwg o’r hyn sydd gan Uncivilisation (Anwareiddiad) i’w gynnig yn y darnau isod am yr artistiaid fydd yn perfformio ar ddechrau a diwedd yr ŵyl - yn gyntaf Marmaduke Dando - sy’n dod â’i 'Powerdown' i Eglwys Sant Ioan ar y nos Wener. Darllenwch fwy ar wefan Dark Mountain (Y Mynydd Tywyll) neu un Marmaduke ei hun.